Xenophon

Cadfridog a hanesydd Groegaidd oedd Xenophon (Hen Roeg: , Groeg diweddar:: "Ξενοφών", "Ξενοφώντας"; c.. 431 CC – 355 CC).

Ganed ef tua 430 CC gerllaw dinas Athen, yn fab i Gryllus ac o deulu uchelwrol. Yn 401 CC, cymerodd ran yn ymgyrch Cyrus yr Ieuengaf i geisio cipio gorsedd Ymerodraeth Persia oddi ar ei frawd, Artaxerxes II. Roedd byddin Cyrus yn cynnwys tua 10,000 o hurfilwyr Groegaidd.

Ym mrwydr Cunaxa, i’r gogledd o ddinas Babilon, lladdwyd Cyrus yn yr ymladd. Gwahoddodd Artaxerxes II arweinydd y Groegiaid, Clearchus. i gynhadledd heddwch, ond cymerodd ef yn garcharor a’i ddienyddio. Etholodd y Groregiaid arweinyddion newydd, yn cynnwys Xenophon, cyn ymladd eu ffordd yn ôl at yr arfordir. Ysgrifennodd Xenophon hanes taith y Deng Mil yn ôl i Wlad Groeg fel yr ''Anabasis'' ("Yr Ymgyrch”).

Yn ddiweddarach, alltudiwyd ef o Athen, efallai am iddo ymladd dros Sparta yn erbyn Athen ym Mrwydr Coronea yn 394 CC. Roddodd Sparta dir iddo ger Olympia yn Elis. Caniatawyd iddo ddychwelyd i Athen wedi i’w fab, Gryllus, farw yn ymladd dros Athen ym Mrwydr Mantinea.

Roedd yn edmygydd o Socrates ac ysgrifennodd nifer o weithiau ar ei athroniaeth. Mae ei fersiwn ef o Socrates yn bur wahanol i fersiwn Platon. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 17 canlyniadau o 17 ar gyfer chwilio 'Xenophon', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Llyfr
    gan Xenophon
    Cyhoeddwyd 1960
  2. 2
    Llyfr
    gan Xenophon
    Cyhoeddwyd 1962
  3. 3
    Llyfr
    gan Xenophon
    Cyhoeddwyd 1900
  4. 4
    Llyfr
    gan Xenophon
    Cyhoeddwyd 1972
  5. 5
    Llyfr
    gan Xenophon
  6. 6
    Llyfr
    gan Xenophon
    Cyhoeddwyd 1867
    Awduron Eraill: “...Xenophon...”
  7. 7
    Llyfr
    gan Xenophon
    Cyhoeddwyd 1962
  8. 8
    Llyfr
    gan Xenophon
    Cyhoeddwyd 1969
  9. 9
    Llyfr
    gan Xenophon
    Cyhoeddwyd 1855
    Awduron Eraill: “...Xenophon...”
  10. 10
    Llyfr
    gan Xenophon
    Cyhoeddwyd 1949
  11. 11
    Llyfr
    gan Zolotas, Xenophon, 1904-
    Cyhoeddwyd 1969
  12. 12
  13. 13
    Llyfr
    gan Zolōtas, Xenophon, 1904-
    Cyhoeddwyd 1978
  14. 14
    Llyfr
    gan Zolōtas, Xenophon, 1904-
    Cyhoeddwyd 1978
  15. 15
    Llyfr
    gan Zolotas, Xenophon, 1904-
    Cyhoeddwyd 1977
  16. 16
    Llyfr
    gan Strauss, Leo
    Cyhoeddwyd 1970
    Awduron Eraill: “...Xenophon...”
  17. 17
    Llyfr
    Awduron Eraill: “...Xenophon...”