Thomas Dekker
Dramodydd a phamffledwr o Loegr oedd Thomas Dekker (tua 1572 – 1632) a flodeuai yn oes theatr Elisabeth ac Iago. Nodweddir ei waith gan bortreadau bywiog o Lundain ac iaith y ddinas, rhyddiaith llawn hwyl a mynd, plotiau rhamantaidd a moesolaidd, a themâu gwladgarol a Phrotestannaidd.Ni wyddys llawer am fywyd Dekker. Credir iddo gael ei eni i deulu o fewnfudwyr Iseldiraidd yn Llundain. Roedd ganddo rywfaint o grap ar yr ieithoedd Lladin, Ffrangeg, ac Iseldireg, ac mae'n bosib iddo fod yn filwr yn ystod ei ieuenctid.
Sonir amdano yn gyntaf, fel dramodydd, ym 1598. Ysgrifennodd o leiaf 42 o ddramâu, naill ai ar liwt ei hun neu yn cydweithio â llenorion eraill. O'r rhai sydd yn goroesi, mae naw drama sydd yn waith Dekker yn unig, gan gynnwys ''The Shoemakers Holiday'' (1599) a ''The Honest Whore, Part 2'' (1630), a 13 drama arall a ysgrifennwyd ganddo gydag eraill, yn eu plith Thomas Middleton (''The Honest Whore, Part 1'', 1604 a ''The Roaring Girl'', 1610), John Webster (''Westward Ho'', 1604 a ''Northward Ho'', 1605), Philip Massinger, John Ford, a William Rowley. Yn ystod y ffrae a elwir "rhyfel y beirdd" neu "ryfel y theatrau", cafodd Dekker ei bortreadu ar ffurf Demetrius Fannius yn y ddrama ''Poetaster'' (1601) gan Ben Jonson. Ymatebodd Dekker yn ei waith ''Satiro-mastix'' (1601).
Dekker oedd un o brif bamffledwyr Oes Iago ac mae ei ryddiaith yn cynnwys straeon am y pla (''The Wonderfull Yeare'', 1603) ac enghreifftiau o lenyddiaeth dihirod (''The Belman of London'', 1608) mewn dynwarediad o Robert Greene, yn ogystal â ''The Guls Horne-booke'' (1609) sydd yn dychanu bywyd y theatr Lundeinig.
Treuliodd Dekker y cyfnod 1613–19 yn y carchar dyledwyr, ac mae'n debyg iddo dynnu ar ei brofiad wrth gyfrannu disgrifiadau o fywyd yn y ddalfa at chweched argraffiad ''Characters'' (1616) gan Syr Thomas Overbury. Bu Dekker hefyd yn ymwneud â pherfformiadau cyhoeddus y tu hwnt i'r llwyfan, ac yn gyfrifol am y dathliadau stryd i groesawu'r Brenin Iago i Lundain ym 1603 a phasiantau'r Arglwydd Faer ym 1612, 1627, 1628, a 1629. Er gwaethaf ei lenydda a'i drefniadau toreithiog, mae'n debyg yr oedd Dekker unwaith eto mewn dyled fawr pan fu farw tua 60 oed ym 1632. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9Llyfrgan Dekker, Thomas, ca. 1572-1632Awduron Eraill: “...Dekker, Thomas, ca. 1572-1632...”
Cyhoeddwyd 1904
-
10
-
11LlyfrIntroductions, notes, and commentaries to texts in The dramatic works of Thomas Dekker : Cyrus Hoy /gan Hoy, CyrusAwduron Eraill: “...Dekker, Thomas, ca. 1572-1632...”
Cyhoeddwyd 1978
-
12
-
13
-
14
-
15LlyfrCyhoeddwyd 1915Awduron Eraill: “...Dekker, Thomas, 1572-1632...”