Jilly Cooper

| dateformat = dmy}} Nofelydd o Loegr oedd y Fonesig Jilly Cooper (ganwyd Jill Sallitt; 21 Chwefror 19375 Hydref 2025), sy'n fwyaf adnabyddus am ei chyfres hirhoedlog ''Rutshire Chronicles''. Buodd yn newyddiadurwraig ac ysgrifennodd sawl gwaith ffeithiol cyn troi at ffuglen. Ystyriwyd bod rhai o'i nofelau'n anweddus. Roedd hi'n ffigur amlwg mewn llenyddiaeth boblogaidd Brydeinig, yn nodedig am ei sylwebaeth gymdeithasol ffraeth a'i darluniau o fywyd dosbarth canol uwch.

Cafodd Jill Sallitt ei geni yn Hornchurch, Essex, yn ferch i Mary Elaine (ganwyd Whincup) a WB Sallitt. Cafodd ei magu yn Ilkley, Swydd Efrog, lle cafodd ei addysg yn Ysgol Moorfield. Wedyn, symudodd i Ysgol Godolphin yn Caersallog (Salisbury), Wiltshire. Gweithiodd fel newyddiadurwraig ar y ''Middlesex Independent yn Brentford.'' Ymddangosodd ei nofel ramant gyntaf, ''Emily'', ym 1975.

Pan gyfarfu â Godfrey Smith, golygydd ''Cylchgrawn The Sunday Times,'' awgrymodd iddi ysgrifennu colofn ei hun.am ei phrofiadau. Rhedodd y golofn honno o 1969 i 1982, pan symudodd i ''The Mail on Sunday'', lle bu’n gweithio am bum mlynedd. Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, ''How to Stay Married'', ym 1969.

Ym 1961 priododd â Leo Cooper, yr oedd hi wedi'i adnabod ers ei phlentyndod. Daeth Leo yn gyhoeddwr llyfrau hanes milwrol. Roedd gan y cwpl ddau o blant a phump o wyrion. Ym 1982, gadawodd y cwpl Putney, Llundain, i symud i hen blasty ger Stroud, Swydd Gaerloyw. Cafodd Leo ddiagnosis o glefyd Parkinson yn 2002. Bu farw ym 2013, yn 80 oed. Yn 2010, cafodd Jilly strôc fach.

Bu farw Cooper ar 5 Hydref 2025, yn 88 oed, yn dilyn cwymp yn ei chartref yn Swydd Gaerloyw. dywedodd ffrind hirdymor Jilly Cooper,

Dywedodd Y Frenhines Camilla, "Boed iddi gael ei llenwi o hyn ymlaen â dynion anhygoel o olygus a chŵn ymroddedig." Dywedodd Keir Starmer, prif weinidog y Deyrnas Unedig: "Roedd y Fonesig Jilly Cooper yn rym llenyddol y lluniodd ei ffraethineb, ei chynhesrwydd a'i doethineb ddiwylliant Prydain am dros hanner canrif a dod â llawenydd i filiynau." Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 7 canlyniadau o 7 ar gyfer chwilio 'Cooper, Jilly', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Llyfr
    gan Cooper, Jilly
    Cyhoeddwyd 1981
  2. 2
    Llyfr
    gan Cooper, Jilly, 1937-
    Cyhoeddwyd 1979
  3. 3
    Llyfr
    gan Cooper, Jilly, 1937-
    Cyhoeddwyd 1978
  4. 4
    Llyfr
    gan Cooper, Jilly, 1937-
    Cyhoeddwyd 1976
  5. 5
    Llyfr
    gan Cooper, Jilly, 1937-
    Cyhoeddwyd 1975
  6. 6
    Llyfr
    gan Cooper, Jilly, 1937-
    Cyhoeddwyd 1976
  7. 7
    Llyfr
    gan Cooper, Jilly, 1937-
    Cyhoeddwyd 1983