Canada

| suppressfields= gwlad image1 sir | map lleoliad = 270px | banergwlad = 170px }} Gwlad fwyaf gogleddol Gogledd America yw Canada a hi yw'r wlad ail fwyaf yn y byd o ran arwynebedd, yn dilyn Rwsia. Mae'n ymestyn o'r Môr Iwerydd yn y dwyrain i'r Môr Tawel yn y gorllewin ac i Gefnfor yr Arctig i'r gogledd. Mae'n rhannu ffin gydag Unol Daleithiau'r America i'r de ac i'r gogledd-orllewin ac mae ei deg talaith (''province'') a thair tiriogaeth (''territory'') yn ymestyn o'r Môr Iwerydd i'r Môr Tawel, gyda Chefnfor yr Arctig yn y gogledd. Prifddinas Canada yw Ottawa, a'i thair ardal fetropolitan fwyaf yw Toronto, Montreal, a Vancouver. Yn y cyfrifiad diwethaf, roedd poblogaeth y wlad yn .

Mae pobl frodorol wedi byw'n barhaus yn yr hyn a elwir, bellach, yn "Ganada", a hynny ers miloedd o flynyddoedd. Pan gyrhaeddodd y dyn gwyn ei thraethau, roedd 500,000 ohonynt yn byw yma.

Heddiw, mae'n frenhiniaeth gyfansoddiadol; gwladfa Ffrainc oedd Canada, wedyn gwladfa'r Saeson. Daeth yn fwyfwy annibynnol pan arwyddwyd 'Statud San Steffan' yn 1931 ac yna Deddf Canada 1982, pan dorrodd yn llwyr oddi wrth cyfreithiau Senedd Prydain. Bellach, mae hi'n wlad gwbwl annibynnol, sofran, gyda'r Saesneg a'r Ffrangeg yn ieithoedd swyddogol. Mae'r Ffrangeg yn cael ei siarad gan 30% o'r boblogaeth, y rhan fwyaf yn Québec, Ontario a Brunswick Newydd. Mae 32,000,000 o bobl yn byw yno, yn y de yn gyffredinol.

Mae Canada yn ddemocratiaeth seneddol ac yn frenhiniaeth gyfansoddiadol yn nhraddodiad San Steffan. Pennaeth llywodraeth y wlad yw'r prif weinidog - sydd yn ei swydd yn rhinwedd ei allu i reoli'r Tŷ'r Cyffredin etholedig - ac fe'i penodir gan y llywodraethwr cyffredinol, sy'n cynrychioli brenhines Lloegr, sef pennaeth y wladwriaeth. Mae'r wlad yn parhau i fod yn un o wledydd y Gymanwlad.

Mae ymhlith y gwledydd uchaf mewn tryloywder ei llywodraeth, rhyddid sifil, ansawdd bywyd, rhyddid economaidd ac addysg. Mae'n un o genhedloedd mwyaf ethnig ac amlddiwylliannol y byd, sy'n ganlyniad i fewnfudo ar raddfa fawr o lawer o wledydd eraill. Mae perthynas hir Canada â'r Unol Daleithiau wedi cael effaith sylweddol ar ei heconomi a'i diwylliant.

Yn wlad ddatblygedig iawn, Canada sydd â'r 15fed incwm enwol y pen uchaf, drwy'r byd, a'r 17fed safle yn y Mynegai Datblygiad Dynol. Ei heconomi ddatblygedig yw'r 10fed fwyaf yn y byd, gan ddibynnu'n bennaf ar ei hadnoddau naturiol toreithiog a'i rwydweithiau masnach ryngwladol datblygedig. Mae Canada'n rhan o sawl sefydliad neu grŵp rhyngwladol a rhynglywodraethol mawr gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, NATO, y G7, y Grŵp o Deg, y G20, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), Sefydliad Masnach y Byd (WTO), Cymanwlad y Cenhedloedd, Cyngor yr Arctig, '''', fforwm Cydweithrediad Economaidd Asia-Môr Tawel, a Sefydliad Taleithiau America. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 1,098 ar gyfer chwilio 'Canada', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Llyfr
    gan Canada, John R.
    Cyhoeddwyd 1971
  2. 2
    Llyfr
    gan Canada, John R.
    Cyhoeddwyd 1980
  3. 3
    Llyfr
  4. 4
    Cyfresol
    “...Canada. Environment Canada...”
  5. 5
    Llyfr
    Cyhoeddwyd 1971
    “...Canada...”
  6. 6
    Llyfr
    Cyhoeddwyd 1975
    “...Canada. Nutrition Canada...”
  7. 7
    Llyfr
    Cyhoeddwyd 1975
    “...Canada. Environment Canada...”
  8. 8
    Llyfr
    Cyhoeddwyd 1990
    “...Canada. Immigration Canada...”
  9. 9
    Cyfresol
    “...Canada. Information Canada...”
  10. 10
    Llyfr
    gan Rao, S. S. (Salem S.), 1934-
    Cyhoeddwyd 1976
    “...Canada. Environment Canada...”
  11. 11
    Llyfr
    gan Morse, Eric W., 1904-1986
    Cyhoeddwyd 1979
    “...Parks Canada...”
  12. 12
    Cylchgrawn
    Cyhoeddwyd 1901
    “...Canada. Dept. of Labour...”
  13. 13
    Cylchgrawn
    Cyhoeddwyd 1982
    “...Canada. Agriculture Canada. Marketing and Economics Branch...”
  14. 14
    Cylchgrawn
    Cyhoeddwyd 1982
    “...Canada. Agriculture Canada. Marketing and Economics Branch...”
  15. 15
    Llyfr
    Cyhoeddwyd 1978
    “...Canada Soil Survey Committee...”
  16. 16
    Cyfresol
    “...Canada. Agriculture Canada. Marketing and Economics Branch...”
  17. 17
    Llyfr
    gan Hosie, R. C. (Robert Christie)
    Cyhoeddwyd 1969
    “...Canada. Fisheries and Environment Canada...”
  18. 18
    Llyfr
    gan Johnstone, W. D.
    Cyhoeddwyd 1976
    “...Canada. Fisheries and Environment Canada...”
  19. 19
    Llyfr
    gan Ffrench, R. A.
    Cyhoeddwyd 1971
    “...Canada. Fisheries and Environment Canada...”
  20. 20
    Dogfen y Llywodraeth Llyfr
    gan Stewart, John N.
    Cyhoeddwyd 1975
    “...Canada. Urban Affairs Canada...”